Bydd ein digwyddiad nesaf yn brynhawn Cymraeg (yn hytrach na noson Gymraeg). Iawn, dyw ymgyrch Cymru yn y Chwe Gwlad ddim yn mynd yn arbennig o dda hyd yn hyn eleni, ond rydym i gyd yn rhan ohoni! Dewch i dreulio amser gyda ni'n cefnogi'r bechgyn yn eu brwydr yn erbyn yr Albanwyr yn The Angelsey, 89-91 Chapel Street, Salford M3 5DF, ar brynhawn Sadwrn, 21ain Chwefror 2026. Bydd modd inni roi’r byd yn ei le yn Gymraeg hefyd yn ôl ein harfer!