Skip to content

Details

Bydd ein Noson Gymraeg nesaf yn cael ei chynnal ym mar coctêl MAMUCIUM (6 Todd Street, Manceinion M3 1WU) ar nos Iau, 4ydd Rhagfyr 2025. Sail y bwciad yw diodydd-yn-unig, er y bydd modd i chi archebu rhywbeth i’w fwyta hefyd os ydych chi’i eisiau. Yn ogystal â bod yn lleoliad chwaethus a chlyd, mae MAMUCIUM yn hynod o gyfleus, ac yntau'n agos iawn at Orsaf Drenau Victoria. Bydd hi’n wych cael eich croesawu chi i gyd a chael rhoi’r byd yn ei le yn Gymraeg yn ôl ein harfer.

Events in Manchester, GB
Bars & Pubs
Social Networking
Language Exchange
Language & Culture

Members are also interested in