Rydym yn dychwelyd i far coctêl MAMUCIUM (6 Todd Street, Manceinion M3 1WU) ar gyfer ein Noson Gymraeg nesaf a fydd yn cael ei chynnal ar nos Iau, 12fed Tachwedd 2026. Sail y bwciad yw diodydd-yn-unig, er y bydd modd i ni archebu rhywbeth i’w fwyta hefyd. Yn ogystal â bod yn lleoliad chwaethus a chlyd, mae MAMUCIUM yn hynod o gyfleus, ac yntau’n agos iawn at Orsaf Drenau Victoria. Bydd hi’n wych cael eich croesawu chi i gyd a chael rhoi’r byd yn ei le yn Gymraeg yn ôl ein harfer.