EFFI O BLAENAU: Noson Gymraeg Arbennig yn HOME
Details
Bydd y Noson Gymraeg ym mis Mehefin eleni'n un arbennig iawn oherwydd ein bod ni wedi’n gwahodd gan bobl HOME ym Manceinion i wylio dangosiad neilltuol 18:30 y ffilm 'EFFI O BLAENAU' a chael sgwrs yn Gymraeg yn y bar wedyn ar nos Lun, 22ain Mehefin 2026. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eich gweld chi!
Dyma'r ddolen a fydd yn eich galluogi i brynu tocynnau ar gyfer y ffilm ac i gofrestru ar gyfer y sgwrs wedyn: https://homemcr.org/whats-on/effi-o-blaenau-15-discussion-ntks
Ac, os ydych chi'n dyfynnu'r cod hyrwyddol arbennig ‘EFFICYMRU’, bydd modd i chi brynu tocynnau am bris rhatach (sef £7.95 yr un) heb unrhyw ffioedd bwcio.
